Beth yw HiRISE?
HiRISE (sy’n sefyll am High Resolution Imaging Science Experiment yn Saesneg) yw’r camera mwyaf pwerus a anfonwyd i blaned arall erioed. Lansiwyd yn 2005, gan gyrraedd y blaned Mawrth
yn 2006, ac yn ystod y ddegawd ddiwethaf rydym wedi cymryd dros 50,000 o ddelweddau o?r Blaned Goch mewn manylder anhygoel. Rydym wedi cynorthwyo teithiau eraill (Phoenix, Labordy Gwyddoniaeth Mawrth)
i ddewis safleoedd glanio, wedi gweld afalansiau ar waith ac wedi helpu cadarnhau cyfeintiau helaeth o dd’r wedi’i rewi dan yr wyneb.
Prosiect BeautifulMars
Credwn fod yr wybodaeth am y blaned Mawrth yn eiddo i bawb, ac felly dechreuwyd “Prosiect BeautifulMars” i helpu pobl i ddysgu am y Blaned Goch yn eu hiaith eu hunain.
HiRISE yw’r unig daith NASA fyw sydd ag adnoddau yn y Gymraeg.
Os hoffech chi wirfoddoli, da chi
cysylltwch â ni!
Llfyr hardd
“Mars: The Pristine Beauty of the Red Planet” yw ein llyfr cyntaf a dyma’r gyfrol harddaf o luniau o’r blaned Mawrth sydd ar gael gyda thestun yn y Gymraeg.
Archebwch eich copi heddi’!